GWAITH LLAW (Noddwyd gan Cefyn Burgess)
100. Gorchudd clustog.
101. Gwau rhwymyn i’w gyffwrdd, ar gyfer rhai sy’n dioddef o ddementia.
102. Cerdyn cyfarch ar gyfer babi newydd-anedig.
103. Dwy fedr neu fwy o bynting ar gyfer ystafell babi.
104. Clytio athrwsio – eitem newydd o hen eitem. Nodwch ffynhonnell y gwreiddiol os gwelwch yn dda
105. Eitem yn cynnwys croesbwyth – dim mwy na maint A4.
106. Calendr Adfent – unrhyw gyfrwng.
107. Gorchudd ar gyfer ffȏn symudol – unrhyw gyfrwng.
Ni ddylid cyflwyno unrhyw beth a ddangoswyd yn Sioe Rhuthun yn y gorffennol.
Ffi ymgeisio ymhob dosbarth — 30c.
Gwobr laf-£3, 2il-£2, 3ydd-£1.
Cyffaith (Noddwyd gan Naturally Ethical)
110. Jar o gatwad – unrhyw fath.
111. Jar o gatwad ffa gwyrdd.
112. Jar o jam – unrhyw fath o aeron.
113. Jar o jam cyrens.
114. Jar o farmalêd lemwn a leim.
115. Jar o geuled lemwn.
116. Potel o wirodlyn ffrwyth
Pobi
117. Teisen siocled wedi ei harddurno – y top yn unig. I’w thorri.
118. Paflofa wedi ei llenwi.
119. Tarten gwstard ŵy.
120. Teisen drisi lemwn.
121. Swper i un, yn cynnwys caws.
122. 5 “spring roll”.
123. Cystadleuaeth i’r merched. Te prynhawn i ddau. (Gwobr – potel o sieri).
124. Cystadleuaeth i’r dynion. Tarten Afal. (Gwobr – potel o wisgi).
Noddwyd gan Vale Carpets
Ffi ymgeisio ym mhob dosbarth – 30c. Gwobr 1af – £3, 2il – £2, 3ydd – £1.
Awgrymiadau ar gyfer Pobi a Phreserfio
Pobi
Mae tarten afal yn cynnwys haenen o grwst ar blât, gyda haenen o ffrwyth a chrwst ar y top.
Mae Teisen Fictoria yn cynnwys dwy gacen sbwng gyda haenen o lenwad (jam mafon fel arfer) a siwgr castor ar y top.
Preserfio
Peidiwch a defnyddio jariau gydag enwau ar y jar neu’r caead.
Dylid llenwi jar jam, jeli neu farmaled reit i’r top, ond gyda phicl neu gyffaith dylid gadael gadael ychydig o le ar ben y jar.
Dylid gosod labeli yn daclus ar ochr y jar.
Dylai’r label gynnwys y math o gyffaith, y prif ffrwyth a ddefnyddir a’r dyddiad yn llawn.
Dylid cynnwys gwybodaeth am unrhyw sbeisiau poeth ar y label
Ni ddylid gorchuddio ceuled Lemon neu oren gyda gorchudd solid.
Dylid defnyddio gorchudd seloffen a disgiau cwyrog.
Dylid gorchuddio catwad a phicls gyda chaead solid, ar gyfer finegr.
Mae cadw catwad am o leiaf ddau fis yn gwella’r blas.