Sioe Flodau Rhuthun
Dosbarthiadau Sioe Gŵn Deuluol
Sioe Gŵn Deuluol
Sioe Anifeiliaid Anwes “CREADURIAID MAWR A BACH”
Ffurflenni cystadlu erbyn Awst 12fed
Rheolau
Caniateir i gŵn fod ar y cae, ond os gwelwch yn dda gwnewch yn siwr eu bod ar dennyn a’ch bod yn gwylio ar ôl eu gofynion.
Bydd y beirniadu yn cael ei wneud gan aelod o staff Milfeddyg y Wern . Gallwch ofyn i’r beirniad am wybodaeth am ddim am eich anifail anwes.
- Mae perchnogion yng ngofal eu cŵn er diogelwch ac ymddygiad tra ar safle’r sioe.
- Rhaid i’r anifeiliaid anwes fod mewn cludydd pwrpasol, a’u bod yno am weddill y Sioe.
- Dylid fod a digon o fwyd a dŵr glân ar gael yn ystod y dydd.
- Mae perchnogion yn gyfrifol am les yr anifeiliaid yn ystod y dydd.
- Dylai perchnogion sicrhau fod ardal yr anifeiliad anwes yn cael ei adael yn lân a thaclus.
Os na fydd y rheolau hyn yn cael eu dilyn, byddir yn gofyn i’r perchnogion adael y safle.
Nid yw’r Gymdeithas yn gyfrifol am unrhyw ddigwyddiad all ddigwydd ar safle’r sioe.
Anifeiliaid anwes i fod yn eu lle erbyn 1 pm. ar ddiwrnod y Sioe. Beirniadu i ddechrau am 1.15pm
Bydd y beirniadu yn cael ei wneud gan aelod o staff Milfeddyg y Wern . Gallwch ofyn i’r beirniad am wybodaeth am ddim am eich anifail anwes.
Dosbarthiadau Anifeiliaid Anwes
Cwningod
1 Cwningen a’r clustiau hiraf.
2 Cwningen sy’n crychu ei drwyn / thrwyn.
3 Cwningen gyda’r gôt mwyaf llyfn.
HAMSTERS a CHNOFILOD [excluding Guinea Pigs]
4 Cnofilod gyda llygaid mwyaf disglair.
5 Cnofilod gyda chôt mwyaf llyfn.
6 Cnofil gyda chôt lliw mwyaf anarferol.
Moch Cwta
7 Y Mochyn Cwta gyda llygaid mwyaf disglair.
8 Y Mochyn Cwta gyda’r gôt mwyaf llyfn.
9 Y Pâr gorau o Foch Cwta.
Bydd rosetiau i’r enillwyr ymhob dosbarth.
Noddiur y Sioe Gŵn gan Jus4Paws
Sioe Gŵn Deuluol
Dosbarthiadau i ddechrau am 2:00pm .
Dosbarth 1: Ci bach gorau ee Maint Daeargi a llai.
Class 2: Brid mwyaf ei faint ee Labrador a mwy.
Dosbarth 3: Tywysydd gorau (14 oed ac iau)
Dosbarth 4: Ci hynaf (7 oed a hŷn)
Dosbarth 5: Tric gorau gan gi.
Dosbarth 6: Ci sydd yn edrych yn debyg i’w berchennog.
Dosbarth 7: Ci blêr ( cydymaith gorau)
Bydd y dosbarthiadau’n cael eu beirniadu gan staff Milfeddyga’r Wern.
Gellir cofrestru dosbarthiadau 1-7 ar y diwrnod.
Rhoddir Rosetiau i’r buddugwyr, 1af , 2il , 3ydd ymhob dosbarth.