Skip to content
Rheolau Cystadleuwyr
Rheolau Cystadleuwyr
- Dosbarthiadau Dechreuwyr
Dechreuwr yw rhywun nad yw wedi ennill gwobr gyntaf yn Sioe Rhuthun yny gorffennol. Caiff dechreuwr gystadlu mewn unrhyw ddosbarth yn y Rhaglen.
- Mae angen ffurflen gystadlu a thâl cystadlu ar gyfer pob cystadleuaeth. Mae ffurflenni cystadlu plant yn rhad ac am ddim gan fod Cyngor Tref Rhuthun yn eu noddi. Anfoner pob ffurflen gystadlu at yr ysgirfennydd erbyn y dydd Llun cyn y Sioe, ond gall dderbyn ffurflen hwyr dan amgylchiadau arbennig, hyd at y dydd Gwener.
- Bydd yr Ocsiwn yn agored ar gyfer gosod arddangosiadau fore Sadwrn o 8.30 am hyd 10:30 am. Gellir gosod dosbarthiadu 1 – 8 ar y nos Wener 0 5.00 i 8.00 a dydd Sadwrn o 8.30am i 10.30am.
Rhaid i’r arddangoswyr adael yr ardal cystadlu cyn y beirniadu am 10.30am ac yn gorffen 12.30pm.
- Dylai’r cystadleuwyr nodi’n ofalus y nifer o eitemau sydd angen ymhob cystadleuaeth, gan beidio a chyflwyno mwy na llai o eitemau na’r gofyn.
- Bydd cardiau cystadlu ar gael o fwrdd yr ysgrifennydd a dylid eu gosod (wyneb i lawr) o flaen / ar yr arddangosiad cyn beirniadu. Ni feirniedir unrhyw arddangosiad heb gerdyn.
- Darperir platiau papur os fydd angen i arddangoswyr, a bydd cawgiau gwyrdd ar fenthyg ar gyfer y blodau gan yr ar gyfer arddangos y blodau .
- Rhaid i bob arddangosiad Garddwrol fod yn eiddo’r arddangoswr, neu ei gyflogwr ac wedi ei dyfu ganddo am o leiaf deufis cyn y Sioe, arwahan i’r adran Gosod Blodau. Bydd unrhyw aelod fydd yn torri’r rheol yma ‘n cael eu gwahardd o’r Gymdeithas a bydd y gwobrau’n cael eu dileu.
- Ni fydd arddangoswyr yn cael symud eu heiddo cyn 4.30pm ddiwrnod y sioe Gellir gwerthu cynnyrch o 4.30pm ymlaen.
- Telir y gwobrau ariannol o 3.30pm ymlaen. Dylid dangos Cardiau Gwobrwyo fel prawf o hawl. Os nad yw’r arddangoswr yn bresennol i dderbyn ei wobrau ariannol, caniateir eu cyflwyno hyd at Medi 1af i’r Trysorydd yn y cyfeiriad a nodwyd.
- Cyflwynir y Tlysau am 4.30pm ar ddydd y Sioe. Os nad yw’r arddangoswr yn bresennol i dderbyn y wobr, caiff ei atal.
- Mae pob tlws yn barhaol, ni ellir eu hennill yn llwyr a rhaid eu dychwelyd erbyn Gorffennaf 1af y flwyddyn ganlynol.
- NID yw’r gymdeithas yn gyfrifol am unrhyw golled/ niwed a ddigwydd i eiddo neu arddangosiadau ar eu ffordd i neu yn ystod y Sioe.
- Rhaid i osodiadau blodau gael eu trefnu ar y safle, oni nodir yn wahanol.
- Mae angen tâl cystadlu ar gyfer pob un eitem yn y dosbarth.
- NI DDERBYNNIR CEISIADAU NEWYDD I GYSTADLU AR DDYDD Y SIOE.