Rheolau Cyffredinol

  1. Gelwir y Gymdeithas yn GYMDEITHAS SIOE RHUTHUN, a chynhelir Sioe Flodau a gweithgareddau eraill.
  2. Bydd pob is-Lywydd sy’n cyfrannu £12 a phob unigolyn sy’n cyfrannu £5 yn aelod o’r Gymdeithas, gyda’r hawl i bleidleisio yn etholiad y Pwyllgor. Tâl Aelodaeth Teulu yn £8. Mae’r Aelodaeth i’w dalu erbyn Chwefror 1af yn flynyddol.
  3. Pwrpas adran Garddwriaethol y Gymdeithas yw i feithrin a gwella gwybodaeth ac awydd am egwyddorion ac arfer da.
  4. Mae’r cystadlaethau’n agored i unrhyw gystadleuydd ym Mhrydain.
  5. Penodir y Beiniaid gan y Pwyllgor .
  6. NI chaniateir i gystadleuydd feirniadu na stiwardio mewn unrhyw ddosbarth y bydd yn cystadlu ynddo.
  7. NI chaniateir mynediad i’r man arddangos o ddechrau’r beirniadu hyd yr agorir i’r cyhoedd, i neb onibai i’r Beirniad a’r Stiward a benodwyd gan y pwyllgor.
  8. Rheolwr yr arddangosiadau fydd yn trefnu’r gofod ar gyfer gosod yr arddangosiadau.
    Rheolwr

Mae gan y Beirniaid yr hawl i wobrwyo, atal neu gwtogi gwobrau, a bydd eu penderfyniad yn derfynol, oni fydd ymdrech i’w twyllo fod arddangosiad yn ddilys. Yn yr achos hwn wedi trafodaeth gyda’r Ysgrifennydd neu Swyddogion y Gymdeithas, gellir atal pob gwobr a thlysau a ddyfarnwyd i’r person yn y Sioe honno. Ymhen amsaer gall Pwyllgor Llawn y gymdeithas gadarnhau neu ddileu’r penderfyniad neu gosbi ymhellach. Gellir gwahodd yr arddangoswr i ymddagnos o flaen y pwyllgor
llawn o Gymdeithas Sioe Rhuthun.

  1. Cyn y gellir ystyried protest yn erbyn Beirniad ( pob protest i fod yn ysgrifenedig) gan y pwyllgor, dylid rhoi blaendal o £1 i’r ysgrifennydd erbyn 4pm ar ddydd y Sioe. Os bydd y brotest yn ofer, collir y blaendal. Dylid derbyn protest ynghlyn a’r Pwyntiau Uchaf o fewn 3 diwrnod yn dilyn argraffu enwau’r ennillwyr. Ymhob achos, bydd penderfyniad y Pwyllgor yn derfynol.
  2. Os dyfernir gwobr i arddangoswr a gaiff ei ddiddymu, rhoddir y wobr i’r arddangoswr nesaf mewn teilyngdod yn nhyb y Beirniad. Gellir ymgeisio mwy nag unwaith yn yr un dosbarth . Os nad oes mwy nag un cystadleuydd mewn dosbarth, rhoddir yr hawl i’r Beirniad wobrwyo cyntaf neu ail yn y gystadleuaeth.
  3. Mae gan y Pwyllgor yr hawl i ymweld a gerddi sydd wedi dangos cynnyrch ar gyfer cystadlu, cyn neu ar ôl y Sioe.
  4. Defnyddir y geiriau MATH ac AMRYWIAETH yn y rhaglen hwn yn ystyr: mae Pys Per a Rhosod yn FATHAU o flodau ac mae Opera a Peace yn AMRYWIAETHAU o rosod,

Hon. Ysgrifennydd
Mrs S Lightfoot
Pen Waun
Ffordd Gwynach
Rhuthun
LL15 1DE