Sioe Flodau Rhuthun
Hanes
Hanes Sioe Flodau Rhuthun
Mae hanes y Sioe yn dechrau ymhell yn ôl
Hanes Cymdeithas Sioe Rhuthun—mae cyfeiriadau mewn Papurau Newydd gan ddyddio’n ôl i 1899
North Wales Times 8 Awst 1899
Treialon Cŵn Defaid fyddai’n cael ei gynnal yn flynyddol ym Mharc y Castell ddydd Gwener a’r tywydd yn odidog.
North Wales Times 3 Medi 1904
[ y Sioe gyntaf yn 1904 ar ôl toriad o rai blynyddoedd]
Wedi toriad o rai blynyddoedd penderfynwyd gan bwyllgor cryf i drefnu sioe flodau a threialon cŵn defaid a llawer o atyniadau. Col. Cornwallis West yn Llywydd, yn y sioe yn Castle Park.
‘roedd parti wedi teithio o Rhyl mewn salŵn arbennig yn gyswllt i’t trên , gan gyrraedd yn Rhuthun am 2.25pm- gan gyfarfod col C W yn yr orsaf’
‘Ymweliad a’r babell gan yr Hybarch Arglwyddes Olivia Fitzpatrick’
‘gan adael i ddal y trên 4.25 .’
Free Press Sadwrn 3 Medi 1904
Treialon Cŵn Defaid Sioe Rhuthun a’r Carnifal Beicio
‘Cymdeithas Sioe Rhuthun dan Lywyddiaeth Col. C. West . Arglwydd Raglaw Sir Ddinbych yn eu Sioe Flodau cyntaf ddoe, [Thursday] roedd treialon cŵn defaid, carnifal seiclo hefyd roedd y Frigad Dân yn arddangos, ar dir hyfryd Castell Rhuthun, a roddwyd i’w ddefnyddio i’r pwyllgor gan Col. a Mrs Cornwallis West. ‘Cafwyd tywydd ffafriol ac roedd criw o ymwelwyr yn bresennol’
‘roedd pabell fawr o flaen y Castell’
”Yn ystod y prynhawn bu’r DH.R.H. Princess Louise o Schleswig- Holstein gyrraedd yn y Castell gyda Mr H. R. Hughes o Kinmel [Lord Lieutenant of Flintshire]. Yn dilyn bu’n cyflwyno’r gwobrau. Dywedodd Col. C. W. “allwn ni ddim anghofio mai hi yw wyres y Frenhines fwyaf erioed fu’n teyrnasu, a nith i’r Brenin Edward VII a Brenhines Alexandra.”
Free Press Sadwrn 9 Medi 1904
[showing show “started” in 1904]
Cynhaliwyd yr ail arddangosfa blynyddol mewn cysylltiad gyda Chymdeithas Sioe Rhuthun ‘gynhaliwyd yn nhiroedd godidog Castell Rhuthun drwy ganiatad Col. C. W. Roedd y digwyddiad llynedd yn un llwyddiannus ond roedd eleni yn record.
‘Doedd y sioe ond dwy flynedd oed, er hyn roedd yr ymgeisiadau yn 400 ychwaneg na’r flwyddyn flaenorol.’
North Wales Times 31 Awst 1907
‘mae’n cyfeirio at y 4edd sioe flynyddol.’
‘held their fourth annual exhibition, comprising of flower show, sheepdog trails, cycle carnival and garden fete in the beautiful grounds of Ruthin Castle.’
Free Press 22 Awst 1908
rmae’n cyfeirio at y 5ed sioe flynyddol .
Free Press 1909
Adroddiad 4 Medi fod y derbyniadau ar y giat yn £114. yn 1910 £70. Gwobrau’n cael eu cyflwyno gan Iarlles Dundonald.
Free Press 2 Medi 1911
Rhestr llawn o’r enillwyr.
North Wales Times 27 Awst 1917
‘cynhaliwyd y Sioe ddydd iau diwethaf,[25th Aug.] Arglwydd Kenyon ddylai fod wedi agor y sioe ond roedd wedi ei rwystro rhag dod yn yr Alban. Dywedodd W.G. Lecomber – Llywydd i’r Gymdeithas gael ei ffurfio 30 mlynedd yn ôl.
[which confirms date on show logo as being in existence since 1887] ychwanegodd, yn y dyfodol yng ngerddi Castell Rhuthun ,[ ydi hyn yn golygu Cae Ddol?]
Hysbyseb am y sioe yn nhiroedd Castell Rhuthun [drwy ganiatad y Cyfarwyddwr. Arwyddwyd gan John J. Butler- Bryn Siriol ger Rhuthun)