Sioe Flodau Rhuthun
Gwaith Llaw a Chynnyrch Cartref
Gwaith Llaw a Chynnyrch Cartref
Gweler gwybodaeth am y cystadlaethau, yn ogystal ac awgrymiadau am bobi a chyffaith.
Gwaith Llaw
Noddwyd gan Cefyn Burgess er cof am Mair Roberts (Telynores Colwyn)
100. Bag Siopa (wedi ei bwytho)
101. Siwmper plentyn wedi ei wau.
102. Cerdyn dyweddio.
103. Clytio a thrwsio – eitem wedi ei ailgylchu. Nodwch ffynhonnell y gwreiddiol.
104. Eitem yn cynnwys clytwaith – dim mwy na maint A3.
105. Eitem wedi ei wneud o ffelt.
Ni ddylid cyflwyno unrhyw beth a ddangoswyd yn Sioe Rhuthun yn y gorffennol. Ffi ymgeisio ar gyfer pob dosbarth 30c. Gwobrau ~ 1 af – £3, 2 il – £2, 3 rydd – £1.
Celf Gweledol
108. Pwnc – Cefn Gwlad a gweithgareddau cysylltiedig
Unrhyw gyfrwng
1af £10 2il £5 3ydd £3
Rhaid cyflwyno eich gwaith yn y sioe ym Marchand Anifeiliaid Rhuthun, ddydd Gwener Awst 19 am 2 o’r gloch
Cyffaith
( Noddwyd gan Naturally Ethical )
110. Catwad – unrhyw fath.
111. Catwad afal
112. Catwad Eirin Dinbych.
113. Jam – unrhyw fath.
114. Jam Gwsberins.
115. Marmalêd Lemwn.
116. Ceuled Lemwn.
117. Potel o win cartref.
Pobi
118. Teisen goffi wedi ei haddurno – top yn unig. I’w thorri.
119. Tarten Lemwn
120. Teisen Sinsir
121. Teisen eirin – yn defnyddio eirin Dinbych
122. Pitsa llysieuol.
123. 3 “Scotch egg”
124. Torth o fara
125. Cystadleuaeth i’r merched -teisen gaws (gwobr- Potel o Prosecco, rhoddedig gan Sue Starling)
126. Cystadleuaeth i’r dynion -3 sgon. (gwobr -potel o chwisgi – rhoddedig gan Vale Carpets)
127. Cystadleuaeth i ‘r dechreuwyr -3 cacen pili-pala ( 3 butterfly cakes )
128. Cacen Siocled wedi ei haddurno – y dosbarth yma i aelodau C Ff Ifanc yn unig.
Ffi ymgeisio ym mhob dosbarth 30c. gwobr 1af £3, 2il £2, 3ydd £1
Awgrymiadau ar gyfer Pobi a Phreserfio
Pobi
Mae tarten afal yn cynnwys haenen o grwst ar blât, gyda haenen o ffrwyth a chrwst ar y top.
Mae teisen Fictoria yn cynnwys dwy gacen sbwng gyda haenen o lenwad (jam mafon fel arfer) a siwgr castor ar y top.
Preserfio
Peidiwch a defnyddio jariau gyda enwau ar y jar neu’r caead.
Dylid llenwi jar jam, jeli neu farmalêd reit i’r top. Gyda chyffaith a phicls,dylid gadael ychydig o le ar ben y jar. Dylid gosod labeli yn daclus at ochr y jar. Dylai’r label gynnwys y math o gyffaith, y prif ffrwyth a ddefnyddir a’r dyddiad yn llawn.
Dylid cynnwys gwybodaeth am unrhyw sbeisiau poeth ar y label.
Ni ddylid gorchuddio ceuled lemwn neu oren gyda gorchudd solid. Dylid defnyddio gorchudd seloffên a disgiau cwyrog. Dylid gorchuddio catwad a phicls gyda chaead solid ar gyfer finegr. Mae cadw catwad am o leiaf ddau fis yn gwella’r blas.