Sioe Flodau Rhuthun

Dosbarthiadau Mêl

Dosbarthiadau Mêl

200. Dau x 454g (1pwys) o fêl hylif.
201. Dau x 454g (1pwys) o fêl hufenog.
202. Un botel o fedd mewn potel win glir a chorcyn cantelog.
203. Cacen fêl ffrwythau ( gan ddefnyddio eich riset eich hun – gan nodi’r cynhwysion)
204. 5 bisgeden fêl a cheirch gan ddefnyddio’ch riset eich hun – gan nodi’r cynhwysion.

Ffi cystadlu — 30c yr ymgais
Dosbarthiadau 200 – 204 1 af – £3 2 il – £2 3 ydd – £1

Rheolau’r Adran Fêl.

  1. Rhaid i bob eitem a ddangosir fod yn eiddo gwirioneddol yr ymgeisydd, a rhaid i’r holl fêl fod wedi ei gasglu yn y ffordd naturiol gan wenyn yr ymgeisydd.
  2. Rhaid dangos mêl wedi ei botelu mewn jariau 1 pwys clir, math B.S.I. a chaead troad safonol. Derbynnir caeadau plaen, tin neu liw aur yn unig. Ni ddylai bwlch aer fod yn weladwy dan y caead.
  3. Rhaid dangos medd mewn potel gwydr plaen clir di-liw, crwn maint a siap tebyg i botel win gyffredin, heb enwau, addurniadau na ffliwtiau.