Croeso’r Cadeirydd

I ble yr aeth yr amser? Hoffwn eich croesawu i gyd i Sioe Flodau Rhuthun 2026. Mae’r sioe yn gwella bob blwyddyn oherwydd ansawdd arbennig yr hyn a arddangosir yn y sioe.

Eleni yr ydym wedi cynllunio gweithgareddau newydd ar faes y sioe, ac ehangu’r sioe gwn i gynnwys arddangosfeydd gan sawl ci.

Hoffwn, yn bersonol, ddiolch i’r pwyllgor am bob cymorth a chefnogaeth, heb eu holl help ni fyddai’r sioe yn gymaint o lwyddiant. Hoffwn hefyd ddiolch i’r holl fusnesau lleol sy’n hysbysebu a noddi y sioe.

Oherwydd yr amseroedd anodd yma yr ydym yn cadw’r pris mynediad i’r sioe ar yr un £5.00 am fynediad, o dan 16 oed am ddim fel llynedd.

Diolch i chi gyd.

Mike Smith (Cadeirydd)