Dydd Sadwrn Awst 20fed 2022
Sioe Flodau Rhuthun
Croeso i Sioe Flodau Rhuthun
Mae fel arfer yn digwydd yn flynyddol ym mis Awst i drigolion Rhuthun a’r ardal i’w fwynhau. Mae’n gyfle i arddwyr balch ddangos eu cynnyrch , i eraill ddangos eu crefftau ac i’r to ifanc gymryd rhan yn y cystadlaethau. Yn ychwanegol mae llawer o arddangosfeydd, gwelir esiamplau yn y galeri lluniau, a chyfle i weld hen geir a thractorau gallai rieni a neiniau a theidiau fod wedi eu dreifio. Mae’n sioe deuluol, gartrefol a diogel. Mae’n ddiwrnod difyr llawn hwyl i deuluoedd yn llawn chwerthin a siarad
Diweddariad o’r Sioe
Nid oedd yn bosib cynnal y Sioe am nifer o flynyddoedd, ond bydd yn cael ei chynnal yn 2022. Byddwn yn dilyn canllawiau’r Llywodraeth, rheolau a chanllawiau fydd mewn grym cyfnod y sioe