SIOE ANIFEILIAID ANWES
Ffurflen Gystadlu i mewn erbyn Awst 12fed
Caniateir cðn ar y cae, ond gofynnir yn garedig i chi eu cadw ar dennyn fer, ag edrych
ar eu holau.
Rheolau
- Perchennog yn gyfrifol am ymddygiad a diogelwch ei anifeiliad tra yn y Sioe
- Anifeiliaid i fod mewn cawell holl amser y Sioe.
- Digon o fwyd a dðr ar gael trwy gydol y Sioe.
- Perchennog yn gyfrifol am les eu hanifail yn ystod y dydd.
- Perchennog yn gyfrifol fod lleoliad yr anifeiliaid yn cael ei adael yn lân
Os na fydd y rheolau uchod yn cael ei cadw, bydd y perchnogion yn gorfod gadael y lleoliad.
Ni fydd Cymdeithas y Sioe yn gyfrifol am unrhyw ddigwyddiad yn lleoliad yr anifeiliaid.
Yr holl anifeiliaid i fod yn eu lle erbyn 1 o’r gloch ddiwrnod y sioe.
Beirniadu yn cychwyn 1.15.
Beirniadu gan staff o Bractis Wern Veterinary
Cewch holi y beirniad am eich anifail diwrnod y sioe.
DOSBARTHIADAU
CWNINGOD
1 Cwningen a’r clustiau hiraf.
2 Cwningen sy’n crychu ei drwyn/ thrwyn.
3 Cwningen gyda’r gôt fwyaf llyfn.
HAMSTERS a CHNOFILOD [heb gynnwys Moch Cwta]
4 Cnofilod gyda llygaid mwyaf disglair.
5 Cnofilod gyda’r gôt mwyaf llyfn.
6 Cnofil gyda’r gôt lliw mwyaf anarferol.
MOCH CWTA
7 Y Mochyn Cwta gyda llygaid mwyaf disglair.
8 Y Mochyn Cwta gyda’r gôt fwyaf llyfn.
9 Y pâr gorau o Foch Cwta.
Roset i’r enillwyr ym mhob dosbarth
Noddir y cystadlaethau cðn gan Gwmni Gwallt Tommy’s
Sioe Gðn Deuluol
Dosbarthiadau am 2:00pm
Dosbarth1: Ci bach gorau ee Maint Daeargi a llai.
Dosbarth 2: Brid mwyaf ei faint ee Labrador a mwy
Dosbarth 3: Tywysydd gorau (14 oed ac iau)
Dosbarth 4: Ci hynaf (7 oed a hŷn)
Dosbarth 5: Tric gorau gan gi
Dosbarth 6: Ci sydd yn edrych yn debyg i’w berchennog.
Dosbarth 7: Ci blêr (cydymaith gorau)
Bydd y dosbarthiadau hyn yn cael eu beirniadu gan y Milfeddyg Wern.
Gellir cofrestru dosbarthiadau 1-7 ar ar y diwrnod.
Rhoddir rosetiau i’r 1 af , 2 il , 3ydd ymhob dosbarth.